SL(6)731 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2026

Cefndir a Diben

Mae'r Gorchymyn hwn yn mireinio’r ffordd y cymhwysir y meini prawf a ddefnyddir i ddosbarthu eiddo hunanddarpar yn eiddo annomestig yn y system drethiant leol a’i wneud felly’n atebol am dalu ardrethi annomestig.  Rhaid i eiddo o’r fath fod ar gael i’w osod am o leiaf 252 o ddiwrnodau ac wedi ei osod, mewn gwirionedd, am o leiaf 182 o ddiwrnodau o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Fel arall, caiff eiddo ei ddosbarthu yn eiddo domestig ac yn atebol am dalu’r dreth gyngor.

Mae’r Gorchymyn yn galluogi nifer gyfartalog y diwrnodau y gosodwyd yr eiddo dros ddwy neu dair blynedd i gael ei ystyried yn dystiolaeth bod y meini prawf wedi eu bodloni, os na chyrhaeddwyd 182 o ddiwrnodau yn ystod y flwyddyn flaenorol.  Mae hefyd yn galluogi lwfans o hyd at 14 o ddiwrnodau y flwyddyn ar gyfer rhoddion elusennol o seibiannau byr i gael ei gyfrif tuag at y meini prawf gosod.

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn yn gymwys mewn perthynas â diwrnodau asesu sy'n digwydd ar 1 Ebrill 2026 neu ar ôl hynny.

Gweithdrefn

Gweithdrefn annilysu’r Senedd.

Gwnaed y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Gorchymyn o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn yn nodi pryd y bydd y diwygiadau a'r adrannau newydd a nodir yn erthygl 3 o'r Gorchymyn yn gymwys. O ystyried y bydd y diwygiadau a'r adrannau newydd yn cael eu cynnwys yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“y Ddeddf”) heb gyfeirio at erthygl 2 o'r Gorchymyn, gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro pam ei bod wedi mabwysiadu'r dull hwn ac a fyddai'n fwy hygyrch i ddarllenydd y Ddeddf pe bai manylion ynghylch pryd y bydd y diwygiadau a'r adrannau newydd yn gymwys wedi'u cynnwys yng ngeiriad y diwygiadau a'r adrannau newydd hynny, fel bod y ffordd y’u cymhwysir yn glir ar wyneb Deddf 1988. Heb yr eglurder hwn, efallai na fydd defnyddiwr y ddeddfwriaeth yn deall bod gwahanol reolau yn gymwys yn dibynnu ar y diwrnod asesu (fel y'i diffinnir yn erthygl 2) y mae'r defnyddiwr hwnnw'n cyfeirio ato.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd;

Mae'r Nodyn Esboniadol a'r Memorandwm Esboniadol i'r Gorchymyn ill dau yn cyfeirio at ddiwygiadau sy'n cael eu gwneud i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan erthygl 2 o'r Gorchymyn. Mae hyn yn ymddangos yn anghywir gan mai erthygl 3 sy'n gwneud diwygiadau i’r Ddeddf honno.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

3 Chwefror 2026